Hen Madog
  1. You are here:  
  2. Home
  3. Dysgwyr - For Learners
  4. Cymdeithas Madog Chair Competition

Cymdeithas Madog Chair Competition

Chair 2007 - Ymerodraeth Newydd

Details
Written by: Mary Williams-Norton
Category: Cymdeithas Madog Chair Competition
Published: 15 March 2011
Hits: 1933

Y gerdd fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg yr Ymerodraeth, Albany, NY, 2007 gan Athrawes Obeithiol (Mary Williams-Norton)


Ymerodraeth Newydd

Mae'r amser wedi dod i ddechrau ymerodraeth newydd i helpu dechrau byd newydd, byd caredig, byd heb ryfeloedd, a byd heb newyn! Mae llawer o bobl o gwmpas y byd yn medru bod yn arwyr yr ymerodraeth newydd 'ma. Mae gennym ni'r wybodaeth a'r dechnoleg. Mae gennym ni lawer o bobl bendigedig a charedig yn ein byd ni yn barod. Rwan mae rhaid i ni ddefnyddio popeth a phawb sy'n dda yn ein byd ni i wella y byd.

Pwy fydd yr arwyr yn yr ymerodraeth newydd? Pa fath o fenywod a dynion fydd y bobl yn dewis fel ymerawdwyr? 'Dw i'n cofio dysgu yn yr ysgol am Genghis Khan ac Adolf Hitler yn fy nosbarth hanes, am Julius Caesar yn fy nosbarth Lladin, ac am Napoleon Bonaparte yn fy nosbarth Ffrangeg. Sut bynnag mi ddysgais am Geroge Washington Carver, arwr i lawer o wyddonyddion, a fy mhen fy hun. Mae gennym ni angen arwyr diffuant yn ein byd newydd!

Mae'r amser wedi dod i ddathlu arwyr gwahanol: gwydonnyddion, periannyddion, ffermwyr, nyrsau, meddygon, ac, yn arbennig, athrawon, teuluoedd, a chyfeillion eraill o blant. Bydd ffermwyr yn bwyda'r bobl efo'r cymorth gwyddonyddion sy'n datblygu mathau gwell o gnydau. Bydd periannyddion a gwyddonyddion yn datblygu mathau mwy effeithiol o egni i achlesu'r byd. Bydd nyrsiau a meddygon yn arail y bobl a gweithio efo gwyddonyddion i ymchilio am feddyginiaethau newydd. Teuluoedd ac athrawon fydd yn arbennig o bwysig. Byddan nhw yn helpu pob plentyn i ddeall eu byd a'u dysgu defnyddio eu donau a'u deallgarwch. Pob plentyn fydd yn werthfawr yn yr ymerodraeth newydd, wrth gwrs. Plant fydd y ffermwyr, gwyddonyddion ac athrwon yn y dyfodol. Byddwn ni'n dathlu plant yn ymerodraeth newydd.

Bydd y ymerawdwyr yn wahanol hefyd. Mae rhaid iddyn nhw fod yn ddeallgar iawn, yn oddefgar, a'n arbennig o garedig wrth bawb. Mae rhaid iddyn nhw garu plant a deall gwyddoniaeth, celf, cerddoriaeth, ac diwylliannau o gwmpas y byd. Bydd ganddyn nhw gyflwyniad cwbl i hedd ac i lythrennedd. Byddan nhw yn siarad nifer o ieithoedd, wrth gwrs. Ysgolion cynradd a labordai fydd y cestyll yn ein hymerodraeth newydd!

Ydy yr ymerodraeth newydd 'ma yn syniad diddichell? Wrth gwrs! Ydy'r syniad yn bosibl? 'Dw i'n gobeithio! Cofiwch ein bod ni yn dathlu gwyddoniaeth a hedd efo'r Gwobrau Nobel yn barod. Mae gwyddonyddion o lawer o wledydd yn teithio yn aml i gyfarfodydd i rannu eu syniadau.

'Dyn ni gyd yn adnabod llawer o athrawon bendigedig yn y byd yn barod hefyd. Er enghraifft, mae Liz yn Oakfield yn gwybod am bob aderyn, pysgod a nadroedd yn ei hardal hi. Mae hi'n eu rhannu efo'r plant ac mae'r plant yn dysgu caru anifeiliaid hefyd. Mae Menai yn Henllan yn teithio o gwmpas y byd i ddysgu am ieithoedd a diwylliannau i rannu efo ei disgyblion. Mae Don yn DePere ac Iwan yn Llandudno yn gweithio efo disgyblion efo llawer o anawsterau addysgol a chorfforol. Mae Iwan a Don yn garedig a'n amyneddgar iawn ac mae eu disgyblion yn mwynhau dysgu a pharatoi i fyw yn llwyddiannus yn y byd er gwaethaf eu hanawsterau. Anghofiwch am Napoleon a Genghis Khan! Fy arwyr ydy Liz, Menai, Don, ac Iwan. Pwy ydy'ch arwyr chi?

'Dw i'n credu bod pawb yn medru helpu i fynd â'r ymerodraeth newydd i'r byd. 'Dw i wedi dechrau bagad sy'n mynd ag hwyl i blant. Mae fy myfyrwyr a fi'n ymweld ag ysgolion cynradd a rhannu gweithgareddau gwyddonol a llyfrau diddorol. Er enghraifft, mae'r plant ac athrawon wrth eu bodd efo "wblech" a'r llyfr enwog amdano fo gan Dr. Seuss.

Hoffech chi fyw yn ymerodraeth newydd? Beth 'dych chi'n ei wneud rŵan i newid y byd?

Athrawes Obeithiol


A New Empire

The time has come to begin a new empire to help begin a new world, a kind world, a world without wars, a world without starvation! Lots of people around the world can be heroes in this new empire. We have the knowledge and technology. We have lots of wonderful and caring people in our world already. Now we must use everything and everyone that is good in our world to improve the world.

Who will be the heroes in the new empire? What kind of women and men will the people choose as emperors? I remember learning in school about Genghis Khan and Adolf Hitler in my history class, about Julius Caesar in my Latin class, and about Napoleon Bonaparte in my French class. However I learned about George Washington Carver, hero to lots of scientists, on my own. We need genuine heroes in our new world!

The time has come to celebrate different heroes: scientists, engineers, farmers, nurses, physicians, and, especially, teachers, families, and other friends of children. Farmers will feed the people with the help of scientist who are developing better types of crops. Engineers and scientists are developing more efficient types of energy to protect the world. Nurses and physicians will care for people and work with scientists to search for new treatments. Families and teachers will be especially important. They will help all children understand the world and develop their talents and intelligence. Each child will be valuable in the new empire, of course. Children will be the farmers, scientists, and teachers of the future. We will celebrate children in a new empire.

The new emperors will be different also. They must be very intelligent, tolerant, and especially kind to everyone. They must love children and understand science, art, music, and cultures around the world. They will be absolutely devoted to peace and literacy. They will speak several languages, of course. Primary schools and laboratories will be the castles of our new empire!

Is this new empire a naïve idea? Of course! Is the idea possible? I hope so! Remember that we celebrate science and peace with the Nobel Prizes already. Scientists from many countries often travel to meetings to share their ideas. We all know lots of wonderful teachers in the world already. For example, Liz in Oakfield knows about all the birds, fish, and snakes in her area. She shares them with the children and the children learn to love animals also. Menai in Henllan travels around the world to learn about languages and cultures to share with her pupils. Don in De Pere and Iwan in Llandudno work with children with many learning and physical difficulties. Iwan and Don are very caring and patient and their students enjoy learning and preparing to live successfully in the world despite their difficulties. Forget Napoleon and Genghis Khan! My heroes are Liz, Menai, Don, and Iwan. Who are your heroes?

I believe that everyone can help bring a new empire to the world. I have begun a group that brings fun to children. My students and I visit primary schools to share interesting science activities and books. For example, the children and teachers are in their element with "oobleck" and the famous book about it by Dr. Seuss.

Would you like to live in a new empire? What are you doing now to change the world?

Mary Williams-Norton
Cyfieithiad gan / Translation by Mary Williams-Norton

Chair 2010 - Argaffiadau Mewn Tafarn

Details
Written by: Rob Davis
Category: Cymdeithas Madog Chair Competition
Published: 17 March 2011
Hits: 1843

Y traethawd buddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg 2010: Cwrs Cymru Deg, Caerdydd, Cymru gan Draenog (Rob Davis)


Argraffiadau Mewn Tafarn

Gwelir llawer o bethau yn y dafarn. Mae pobl yn boddi eu galar. Mae dysgwyr yn gwneud eu gwaith cartre. Mae dynion a menywod yn chwilio am ei gilydd. Mae rhai bobl eraill yn chwilio am eu dewrder nhw ar waelod y botel. Eu nerth, eu hamcan. Eu hedd. Mae pawb wedi cael eu gweld. Ond, bydd pobl yn chwarae gêmau weithiau, hefyd--neu'n edrych ar y gêmau ar y teledu. Maen nhw'n dathlu eu buddugoliaeth. Maen nhw'n gwenu; maen nhw'n neidio o gwmpas. Mae rhai bobl yn y dafarn yn hapus. Mae'r dafarn yn cynnwys llawer o fydoedd.

Sosban fach yn berwi ar y tân,
Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
A'r gath wedi sgrapo Sioni bach.

Clywir llawer o bethau yn y dafarn, hefyd. Mae'r llwncdestunau'n cael eu cynnig. Mae'r caneuon yn cael eu canu. Mae tafarnau'n siarad mewn llawer o ieithoedd. Mae'r peintiau yn llifo, yn llifo - un, ac un arall, ac un arall. Efallai fod y tafarnau mewn gwlad yn celwydda - ond, ymddangosir y rhan fawr ohonyn nhw'n celwydda'n wael. Y gwir sydd yn eu caneuon nhw. Mae pawb yn gallu ei glywed. Mae tafarn yn canu gan lawer o leisiau ond, mae hi'n caru gan ddim ond un galon.

O rwy'n ei charu hi, o rwy'n ei charu hi
Yr eneth ar lan y môr.
O rwy'n ei charu hi, o rwy'n ei charu hi
Yr eneth ar lan y môr.

Gadawodd fy hynafiaid o Gymru i ffeindio gwaith - i ffeindi eu dechreuad newydd nhw. Ond, collon nhw lawer o bethau eraill. Dw i'n dysgu iaith y nefoedd nawr, yn gobeithio i adfer y pethau ar goll. Mae Cymru'n gobeithio am adferiad, hefyd - yn gobeithio, ac yn gweithio. Gobaith a gwaith gyda'i gilydd: Gan enw arall, ffydd.

Calon lân yn llawn daioni
Tecach yw na'r lili dlos.
Dim ond calon lân all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.

Es i ar daith i'r Senedd. Teimles i'n gryf iawn yr arddangosodd yr adeilad y Cynulliad Cenedlaethol Cymru'r ffydd hardda. Mewn gwirionedd, efallai fod llywodraeth yn ein siomi ni. Efallai ei bod hi'n ein bradychu ni. Er hynny, bydd ein ffydd ni'n parhau. Ffydd y dynion da sy'n gwneud cyfiawnder. Dynion cyffredin. Y dynion sy'n canu yn y dafarn.

Arglwydd dyma fi, ar dy alwad di;
Canna'm henaid yn y gwaed
A gaed ar Galfari.

Cymru: Dw i'n ei charu hi ond, nid fy nghartref yw hi. Er hynny, Cymru yw cartref fy hynafiaid, ac felly mae'r cartref yn rhan ohonaf. Fy mod yng Nghymru unwaith eto-yn gwrando ar gerddoriaeth-yn yfed y peintiau-yn canu, yn chwerthin, yn gwenu-Sut ffeindiaf i'r geiriau i wagio fy nghalon?

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi.

Draenog


Impressions In A Tavern

One sees lots of things in the tavern. People drowning their sorrows. Students doing their homework. Men and women searching for each other. Some people are searching for their courage at the bottom of a bottle. Their strength, their purpose. Their peace. Everyone has seen them. But, people will be playing games sometimes, too - or watching games on television. They celebrate their victory. They're smiling; they're jumping around. Some people in the tavern are happy. The tavern contains many worlds.

Sosban fach yn berwi ar y tân,
Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
A'r gath wedi sgrapo Sioni bach.

One hears lots of things in the tavern, too. Toasts being offered. Songs being sung. Taverns speak in many languages. The pints are flowing, flowing - one, and another, and another. It may be that the taverns in a country tell lies - but it seems most of them lie badly. The truth is in their songs. Everyone can hear it. A tavern sings with many voices, but it loves with only one heart.

O rwy'n ei charu hi, o rwy'n ei charu hi
Yr eneth ar lan y môr.
O rwy'n ei charu hi, o rwy'n ei charu hi
Yr eneth ar lan y môr.

My ancestors left Wales to find work - to find their new beginning. But, they lost many other things. I'm learning the language of heaven now, hoping to restore the lost things. Wales is hoping for restoration, too - hoping, and working. Hope and work together: By another name, faith.

Calon lân yn llawn daioni
Tecach yw na'r lili dlos.
Dim ond calon lân all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.

I went on a trip to the Senedd. I felt very strongly that the building of the Welsh National Assembly displayed the most beautiful faith. In reality, it may be that government disappoints us. It may be that it betrays us. Even so, our faith will endure. The faith of good men who do justice. Common men. The men who sing in the tavern.

Arglwydd dyma fi, ar dy alwad di;
Canna'm henaid yn y gwaed
A gaed ar Galfari.

Walles: I love her, but she is not my home. Nevertheless, Wales is the home of my ancestors, and so the home is part of me. My being in Wales again - listening to the music - drinking the pints - singing, laughing, smiling - How will I find the words to empty my heart?

The old land of my fathers is dear to me.

Rob Davis
Cyfieithiad gan / Translation by Rob Davis

Chair 2011 - Gwreiddyn A Chraig

Details
Written by: Rob Davis
Category: Cymdeithas Madog Chair Competition
Published: 17 March 2011
Hits: 1836

Y traethawd buddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg 2011: Cwrs Cymraeg Dyffryn Shenandoah gan Mochyn Daear (Robert Davis)


Gwreiddyn A Chraig

"Myfi yw'r winwydden," a
"Chwithau yw'r canghennau" oedd
y geiriau oddi wrth Grist.
Ond gyda'r winwydden 'na,
ddim gair o wreiddyn nid oedd.
Ydy gwinwydden yn drist
heb wreiddyn yn angorfa?

Cymharodd Crist ei deyrnas
â had mwstard, sy'n prifio
nes i'r adar bach gyrraedd
a nythu yn ei gadlas.
Ni allaf mo'i ddisgrifio--
Allai coeden heb 'r un gwreiddyn
fyw a ffynnu yn wyrddlas?

Mi welais goeden fel tŵr,
llwyd ei rhisgl a gwyrdd ei dail,
a brifiodd ar ben clogwyn.
Erydwyd y pridd gan ddŵr,
a chraig oedd ei hunig sail.
Mi welais ei gwreiddiau gwyn
fel bysedd esgyrnog gŵr.

Ymysg crwca ganghennau,
dan gysgod y dail gwanllyd,
mi drigodd yr adar llon
sy'n canu i'r cymylau
yn eu lleisiau tlws ynghyd,
hiraethus eu halawon.
Gwrandawais ar eu chwedlau.

Mi glywais chwedl oesol
o hudoles a'i chariad
at hen swynwr o Gymru.
Trawsffurfiwyd ef yn dreisiol
i goeden ddigymeriad,
am ofnodd hi ei golli.
Ar wreidd'n cysgodd hi'n nosol.

O! Mi wnaeth hi resynu
na allon nhw gyd-orwedd,
a gwingodd hi fel mwydyn.
Roedd dagrau yn defnynnu
i lawr y rhisgl, rhwng bysedd
lle llochodd hi ei choeden,
am byth oddi ar hynny.

Mi gafodd hi ei chladdu
o dan goeden ei chariad
ymhlith y gwreiddiau dyrys,
yn ôl ei dymuniad cu.
"Hawdd cymod lle bo cariad"--
Er gwaetha' bod yn amwys,
dyma ei beddargraff hi.

Ar ymyl serth, parhaodd
ei choeden am flynedd maith.
Mi ddaeth stormydd, broch fel draig,
a therrwyn wynt, a chrynodd
y goeden tal yn waethwaeth.
Ond, serch hynny, wrth y graig,
y gwreiddiau a ymlynodd.

Pa beth mwy cryf na'r gwreiddyn hwn
mor gryf â gwreiddiau o faen,
fel gwreiddiau y mynyddoedd?
Pa beth mwy diball na'r crwn
graig, sy'n dioddef heb straen
yng nghraff y gwreidd'n am hydoedd,
sad yn wastad, byth yn dwn?

Mae'r ystyr yn anhydraeth--
Beth alwn gyfryw 'mrwymiad--
gyda'i gilydd, craig a gwreiddyn?
Beth yw'r enw i'w weddu?
Mi alwn gyfryw gariad
gan yr enw hwn: Hiraeth.

Robert Davis


Root and Rock

“I am the vine,” and
“You are the branches” were
the words from Christ.
But with that vine,
there was no word of a root.
Is it sorrow to a vine,
lacking a root to anchor it?

Christ compared his kingdom
to a mustard seed, which grows
until the little birds arrive
and nest within it.
I can’t describe it--
Could a tree without a single root
live and thrive verdantly?

I saw a tree like a tower,
with gray bark and green leaves,
growing at the top of a cliff.
The earth had been eroded by water,
and a rock was its only foundation.
I saw its white roots
Like a man’s bony fingers.

Amidst crooked branches,
under the shade of the delicate leaves,
dwelt the merry birds
who sing to the clouds
together in their pretty voices,
their melodies full of longing.
I listened to their tales.

I heard an ancient tale
of an enchantress and her love
for an old magician of Wales.
He was transformed violently
into an unremarkable tree,
for she feared to lose him.
She slept nightly on a root.

O! how she did regret
that they could not lie together,
and she winced like a worm.
Tears were dribbling
down the bark, between fingers
where she caressed her tree,
and ever after.

She was buried
under the tree of her love
amongst the gnarled roots,
according to her dear desire.
“Reconciliation is easy where there is love”--
Despite being so ambiguous,
This is her epitaph.

On a steep edge,
her tree endured for long years.
Storms came, angry like a dragon,
and a fierce wind, and
the tall tree shook worse than ever.
But, even so,
the roots clung to the rock.

What is stronger than this root,
as strong as roots of stone,
like the roots of the mountains?
What is more unfailing than the round
rock, which suffers without strain
for ages in the grasp of the root,
always solid, never broken?

The meaning is difficult to express—
The foolishness of coveting?
What do we call such commitment—
together, rock and root?
What is the name to suit it?
We call such love
By this name: Hiraeth.

Rob Davis
Cyfieithiad gan / Translation by Rob Davis

Chair 2013 - Y Gwynt

Details
Written by: Ceri Eagling
Category: Cymdeithas Madog Chair Competition
Published: 17 March 2011
Hits: 2275

Y traethawd buddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg 2013: Cwrs Cymraeg Y Ddinas Wyntog gan Aderyn Bach (Ceri Eagling)


Y Gwynt

Roedd fy mam-gu’n casáu’r gwynt fel rheol. Y gwynt oedd ei gelyn pan oedd hi’n cerdded i’r dref neu i’r capel, weithiau’n ceisio tynnu ei het oddi ar ei phen, ac yn ffeindio eu ffordd tu fewn i’w choler ac i lawr ei gwddf fel bysedd oer. Roedd y gwynt yn peri papurau brwnt i ddawnsio at Nan o’r pafin. Ych-a-fi!

Dim ond ar ddydd Llun, diwrnod golchi, ybyddai’r gwynt yn dod yn ffrind iddi hi. Fel perchynnog melin wynt yn yr Iseldiroedd yn y dyddiau gynt, neu fel morwyr cyn dyfodiad yr Oes Stêm, roedd Nan wrth ei bodd yn edrych trwy’r ffenest fore Llun a gweld bod y gwynt yn chwythu’n iawn.

Roedd gyda ni ddwy lein ddillad, un uwchben y llall. I lenwi’r lein uchaf, roedd rhaid ini agor rhan ohoni a oedd wedi cael ei chlymu i’r postyn tal, a’i gollwng i lefel y lein isaf. Gwaith caled oedd hi wedyn i’w chodi’n llawn o bethau gwlyb a thrwm. Roedd yn wir fel codi hwyl. Unwaith y byddai’r lein honno i fyny eto, gallen ni lenwi’r lein isaf yn rhwydd. Wrth gwrs, doedd neb ond Nan yn gwybod y ffordd hollol gywir o hongian dillad a chynfasau. Roedd y gweddill ohonon ni’n dueddol o fod yn weddol dwp o ran y manylion m$acirc;n. Roedd rhaid iddi’n aml fynd tu fas ar ein hôl i ail-begio crys wrth ei gwt a’i droi i roi cyfle iawn i’r gwynt i enchwythu ei freichiau.

Roedd fy mam yn darllen stori i mi gan Aesop fel plentyn,sydd yn disgrifio cystadleuaeth rhwng yr haul a’r gwynt. Mae dyn yn cerdded fyny allt, ac mae’r ddau gystadleuwr yn ymdrechi i’w orfodi i dynnu ei got. Y gwynt yw’r cyntaf i drio ac mae’n gwneud ei orau glas, ond fel fy Mamgu, mae’r dyn yn botymu ei got yn rhy dynn. Yr haul, wrth achosi iddo chwysu, sydd y llwyddiannus. Wel, nid oedd y gystadleuaeth a welon ni rhwng y gwynt a’r haul yn arferol, ond rhwng y gwynt a’r glaw. Os oedd y gwynt yn gryfach, ar y lein âi’r dillad, ond wrth gwrs, gallai’r waedd, “Glaw eto!” godi unryw funud. Wrth ei chlywed, byddai pawb yn y tŷ, a hyd yn oed Mrs. Long, ein cymydoges drws nesa weithiau yn rhedeg i achub y golch ar frys. Os nad oedd y gwynt yn gallu goresgyn y glaw, druan ohonon ni, roedd dillad ar draws y gegin drwy’r dydd. Ych-a-fi!

Ceri Eagling


The Wind

My grandmother hated the wind as a rule. The wind was her enemy when she was walking to town or to chapel, sometimes trying to pull her hat off her head, and finding its way under her collar and down her neck like cold fingers. The wind made dirty papers dance at Nan from the sidewalk. Ugh!

Only on Mondays, washing day, did the wind become her friend. Like a windmill owner in The Netherlands in bygone days, or like sailors before the age of steam, Nan was in her element on Monday mornings, looking through the window and seeing the wind blowing well.

We had two washing lines, one above the other. To fill the top line we had to undo the part that was tied to the tall line post, and lower it to the level of the bottom line. Afterwards, it was hard work raising it full of heavy, wet things. It really was like hoisting a sail. Once that line was up again, it was easy to fill the bottom line. Of course, no one but Nan knew the completely correct way to hang clothes and bed sheets. The rest of us tended to be a bit dull-witted concerning the finer details. She often had to go out after us and re-pin a shirt by its tail and turn it to give the wind a chance to inflate its sleeves.

My mother read me a story by Aesop when I was a child, which described a contest between the sun and the wind. A man is walking up a hill and the two competitors struggle to force him to take off his coat. The wind is the first to try, and he does his level best, but like my grandmother, the man buttons his coat too tightly. The sun, by causing him to sweat, is successful. Well, the contest we usually saw was not between the sun and the wind, but between the wind and the rain. If the wind was stronger, on the line would go the clothes, but of course, the shout, “Rain again!” could go up at any minute. On hearing it, everyone in the house, and even our next-door neighbor Mrs. Long sometimes, would run to rescue the wash. If the wind was unable to overcome the rain, poor us, there would clothes all over the kitchen throughout the day. Ugh!

Ceri Eagling

Page 5 of 5

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5

Main Menu

  • Home

Login Form

  • Forgot your password?
  • Forgot your username?